2 Chronicles 27

Jotham yn frenin Jwda

(2 Brenhinoedd 15:32-38)

1Roedd Jotham yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth e'n frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Ierwsa, merch Sadoc. 2Fel ei dad Wseia, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r Arglwydd. (Ond wnaeth e ddim beiddio torri rheolau'r deml fel y gwnaeth ei dad). Ac eto roedd y bobl yn dal i bechu.

3Jotham adeiladodd Giât Uchaf y deml, a gwnaeth lot o waith yn ailadeiladu'r wal wrth fryn Offel. 4Adeiladodd drefi ar fryniau Jwda, a chaerau a thyrau amddiffynnol yn y coedwigoedd.

5Aeth i ryfel yn erbyn brenin yr Ammoniaid, a'i drechu. Talodd yr Ammoniaid dros dair mil cilogram o arian, mil o dunelli o wenith a mil o dunelli o haidd iddo. Roedd rhaid iddyn nhw dalu yr un faint y ddwy flynedd ganlynol hefyd.

6Aeth Jotham yn fwy a mwy pwerus, am ei fod yn benderfynol ei fod yn mynd i blesio yr Arglwydd ei Dduw. 7Mae gweddill hanes ei deyrnasiad, ei ymgyrchoedd milwrol a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w gweld yn y sgrôl Brenhinoedd Israel a Jwda. 8Roedd Jotham yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth e'n frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. 9Pan fu Jotham farw, dyma nhw'n ei gladdu yn Ninas Dafydd. A daeth ei fab Ahas yn frenin yn ei le.

Copyright information for CYM